OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 2830 (Cy. 286) (C. 130)
TAI, cymru
Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dod ag amryw o ddarpariaethau Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (“Deddf 2014”) i rym yng Nghymru.
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym, o ran Cymru, ddarpariaethau sy’n ymwneud â sail absoliwt ar gyfer meddiannu am ymddygiad gwrthgymdeithasol (adrannau 94 – 97, 100(2) a (3) o Ddeddf 2014, ac Atodlen 3 iddi) a diwygiadau canlyniadol cysylltiedig, yn ogystal â diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â Rhannau 1, 2 a 4 o Ddeddf 2014.
Mae erthygl 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn perthynas â dwyn adrannau 94 a 97 o Ddeddf 2014 i rym er mwyn sicrhau na fodlonir amod 5 yn y sail absoliwt newydd ar gyfer meddiannu ond pan gaiff y drosedd o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 ei chyflawni ar 20 Hydref 2014, neu wedi hynny.
NODYN AM ORCHMYNION CYCHWYN BLAENOROL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn yn Neddf 2014 wedi eu dwyn i rym yn llawn (oni nodir fel arall) gan orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Darpariaeth |
Dyddiad Cychwyn |
Rhif O.S. |
Adran 96 (yn rhannol) (Lloegr yn unig) |
17 Medi 2014 |
2014/2454 |
Adran 98 (Lloegr yn unig) |
13 Mai 2014 |
2014/949 |
Adran 98 (Cymru yn unig) |
13 Mai 2014 |
2014/1241 (Cy. 129) |
Adran 99 |
13 Mai 2014 |
2014/949 |
Adran 100(1) (Lloegr yn unig) |
13 Mai 2014 |
2014/949 |
Adran 100(1) (Cymru yn unig) |
13 Mai 2014 |
2014/1241 (Cy. 129) |
Adran 101 |
13 Mai 2014 |
2014/949 |
Adran 104 (yn rhannol) |
13 Mai 2014 |
2014/949 |
Adrannau 105 i 107 |
13 Mai 2014 |
2014/949 |
Adrannau 108 i 111 |
14 Gorffennaf 2014 |
2014/949 |
Adran 112 |
13 Mai 2014 |
2014/949 |
Adrannau 116 i 118 |
1 Medi 2014 |
2014/2125 |
Adran 119 |
13 Mai 2014 |
2014/949 |
Adrannau 120 a 121 |
16 Mehefin 2014 |
2014/949 |
Adrannau 123 i 130 |
13 Mai 2014 |
2014/949 |
Adrannau 131 a 132 |
1 Medi 2014 |
2014/2125 |
Adran 133 (yn rhannol) |
1 Medi 2014 |
2014/2125 |
Adran 134 |
1 Medi 2014 |
2014/2125 |
Adran 136 |
1 Hydref 2014 |
2014/2454 |
Adrannau 138 a 139 |
1 Hydref 2014 |
2014/2454 |
Adran 140 |
21 Gorffennaf 2014 |
2014/1916 |
Adrannau 141 a 142 |
13 Mai 2014 |
2014/949 |
Adran 143 |
20 Mawrth 2014 |
2014/630 |
Adrannau 144 i 146 |
13 Mai 2014 |
2014/949 |
Adran 147 |
14 Mawrth 2014 |
2014/630 |
Adran 148 (yn rhannol) |
13 Mai 2014 |
2014/949 |
|
31 Gorffennaf 2014 |
2014/1916 |
|
1 Ebrill 2015 |
2014/1916 |
Adran 149 |
2 Mehefin 2014 |
2014/1226 |
Adrannau 152 a 153 |
13 Mai 2014 |
2014/949 |
Adrannau 155 i 159 |
21 Gorffennaf 2014 |
2014/1916 |
Adrannau 161 i 167 |
21 Gorffennaf 2014 |
2014/1916 |
Adrannau 169 i 173 |
21 Gorffennaf 2014 |
2014/1916 |
Adran 174 |
6 Hydref 2014 |
2014/2454 |
Adran 176 |
13 Mai 2014 |
2014/949 |
Adran 178 |
13 Mai 2014 |
2014/949 |
Adran 179 |
1 Mehefin 2014 |
2014/949 |
Adran 181(1) (yn rhannol) |
20 Mawrth 2014 |
2014/630 |
|
13 Mai 2014 |
2014/949 |
|
21 Gorffennaf 2014 |
2014/1916 |
|
1 Medi 2014 |
2014/2125 |
|
1 Hydref 2014 |
2014/2454 |
Adran 181(1) (yn rhannol) (Lloegr yn unig) |
13 Mai 2014 |
2014/949 |
Adran 181(1) (yn rhannol) (Cymru yn unig) |
13 Mai 2014 |
2014/1241 (Cy. 129) |
Atodlen 4 (yn rhannol) |
13 Mai 2014 |
2014/949 |
Atodlen 8 |
14 Mawrth 2014 |
2014/630 |
Atodlen 9 (yn rhannol) |
13 Mai 2014 |
2014/949 |
|
31 Gorffennaf 2014 |
2014/1916 |
|
1 Ebrill 2015 |
2014/1916 |
Atodlen 10 |
13 Mai 2014 |
2014/949 |
Atodlen 11 (yn rhannol) |
20 Mawrth 2014 |
2014/630 |
|
13 Mai 2014 |
2014/949 |
|
21 Gorffennaf 2014 |
2014/1916 |
|
1 Medi 2014 |
2014/2125 |
|
1 Hydref 2014 |
2014/2454 |
Atodlen 11 (yn rhannol) (Lloegr yn unig) |
13 Mai 2014 |
2014/949 |
Atodlen 11 (yn rhannol) (Cymru yn unig) |
13 Mai 2014 |
2014/1241 (Cy. 129) |
offerynnau STATUdol cymru
2014 Rhif 2830 (Cy. 286) (C. 130)
TAI, cymru
Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2014
Gwnaed 20 Hydref 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 185(3) ac (8) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014([1]).
Enwi a dehongli
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2014.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.
Cychwyn a chymhwyso
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn yn Neddf 2014 i rym o ran Cymru ar 21 Hydref 2014—
(a) adran 94 (sail newydd ar gyfer troseddau difrifol neu dorri gwaharddiadau etc) ac Atodlen 3 (Atodlen i gael ei mewnosod fel Atodlen 2A i Ddeddf Tai 1985);
(b) adran 95 (gofynion hysbysu ar gyfer sail newydd);
(c) adran 96 (gofynion adolygu ar gyfer sail newydd);
(d) adran 97 (sail newydd gyfatebol a gofynion hysbysu ar gyfer tenantiaethau sicr);
(e) adran 100(2) a (3) (cyfyngiadau pan fo achosion meddiannu newydd yn mynd rhagddynt etc);
(f) adran 181(1) (diwygiadau) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r darpariaethau yn Atodlen 11 a bennir ym mharagraff (g) isod; a
(g) yn Atodlen 11 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—
(i) paragraff 2;
(ii) paragraff 7;
(iii) paragraff 8;
(iv) paragraff 9;
(v) paragraff 10;
(vi) paragraff 13;
(vii) paragraff 14;
(viii) paragraff 15(4)(a) ac (c);
(ix) paragraff 16;
(x) paragraff 18; a
(xi) paragraff 19.
Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â dwyn adrannau 94 a 97 i rym yng Nghymru
3. Mewn perthynas â dwyn adrannau 94 a 97 (sail absoliwt ar gyfer meddiannu) i rym yng Nghymru, ni fodlonir amod 5 yn adran 84A(7) o Ddeddf Tai 1985([2]) ac amod 5 yn Sail 7A o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988([3]) ond pan gaiff y drosedd o dan—
(a) adran 80(4) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990([4]) (torri hysbysiad atal mewn perthynas â niwsans statudol), neu
(b) adran 82(8) o’r Ddeddf honno (torri gorchymyn llys i atal niwsans statudol ac ati),
ei chyflawni gan y tenant, neu berson sy’n preswylio yn y tŷ annedd neu’n ymweld ag ef, ar 20 Hydref 2014, neu wedi hynny.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
([2]) 1985 p. 68. Mae adran 84A wedi ei mewnosod yn rhagolygol gan adran 94(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.